Click here for English version.
Otters |
Prosiectau Blaenorol2009Llwybr Sustrans Betws Malpas, CasnewyddArolwg ac asesiad Llanyrafon Manor, CwmbrânArolwg a gwaith trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop 2008Afon Teifi, Castell-newydd EmlynArolwg o bresenoldeb dyfrgwn: Datblygiad Parc Glan yr Afon, Casnewydd- Trwydded datblygiad 2007Cam 2 Arolwg Dyfrgwn TrefolAsesiad Cynefin Dyfrgwn ar hyd amrywiol ddyfrffyrdd yn Ninas Casnewydd Cam 1 a 2 Peterston – Adnewyddu Prif Bibell DdŵrAsesiad o nifer o safleoedd croesi afon ar gyfer presenoldeb dyfrgwn. 2006Arolwg Dyfrgwn TrefolDosbarthiad a Bygythiadau Posibl i’r Dyfrgi ar yr Afon Wysg yng Nghasnewydd. 2005Ailwampio Prif Bibell Ddŵr BetwsArolwg a darpariaeth trwydded, yn cynnwys cynllun lliniaru. 2004ACA Afon WysgArolwg o’r Cerrynt a Dosbarthiad Posibl, cyflwr a llwyddiant bridio’r dyfrgi. ACA Afon TywiArolwg o’r cerrynt a dosbarthiad posibl, cyflwr a llwyddiant bridio’r dyfrgi. 2003ACA Afon DyfrdwyArolwg o’r cerrynt a dosbarthiad posibl, cyflwr a llwyddiant bridio’r dyfrgi. 2002Arolygon o Ddyfrgwn Cymru 2002Arolygon o afonydd yng Nghanolbarth a De Ddwyrain Cymru Cefnffordd yr A470 – Gwelliannau Llwyn-y-CelynArolwg dyfrgwn a chynllun lliniaru. 2001Gwelliannau Carthffosydd Strategaeth Arfordir y De DdwyrainArolwg dyfrgwn, darpariaeth trwydded a chynllun lliniaru, yn cynnwys adeiladu gwÂl artiffisial |
Dyfrgwn - sut allwn ni eich helpu?Y dyfrgi cyffredin Ewropeaidd, Lutra lutra, yw’r unig ddyfrgi brodorol yn y Deyrnas Unedig. Ar un adeg yn gyffredin ledled Ynysoedd Prydain, lleihaodd eu niferoedd yn sylweddol ar ddiwedd y 1950au a dechrau’r 1960au oherwydd amryw broblemau, ond yn bennaf oherwydd plaladdwyr yn eu cadwyn fwyd. Adlewyrchwyd y dirywiad hwn ledled Ewrop ac mae wedi arwain at eu difodiant mewn rhai gwledydd. O ganlyniad, mae’r rhywogaeth wedi ei gwarchod yn llawn ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru a gorllewin Lloegr yn un o brif gadarnleoedd y rhywogaeth erbyn heddiw ac wrth i ansawdd dŵr wella mae’r dyfrgi’n ailddarganfod hen gynefinoedd ledled Prydain, yn cynnwys yn rhai o’n dinasoedd a threfi. Gall dyfrgwn fyw am hyd at 10 mlynedd, ond mae’r rhestr o fygythiadau i’w lles yn parhau i dyfu. Mae nifer cynyddol o ddyfrgwn yn cael eu lladd ar ein ffyrdd, ac mae bygythiadau newydd o bosibl megis pry’r afu, Pseudamphistomum truncatum, y tybir oedd yn gyfrifol am farwolaeth wyth dyfrgi yng Ngwlad yr Haf yn 2006, yn golygu nad yw dyfodol y dyfrgi yn sicr o bell ffordd. Gall datblygiadau difeddwl amharu ar, a dinistrio eu mannau gorffwys. Ar gyfer anifail sydd ar ben y gadwyn fwyd ddyfrol, gall llygredd cemegol amaethyddol a diwydiannol fod yn drychinebus. Gwasanaethau
|
| Crëwyd y wefan: Mawrth 08 | Diweddarwyd Mai 2010 | Dyluniwyd gan Art Matters |