Prosiectau Blaenorol
2009
Glofa’r Tŵr, Hirwaun
Arolygon adar magu a gaeafu a ffyngau
- ERM Ltd
- Tower Colliery Ltd
2008
Ysgol Gyfun Y Bont-faen
Gwerthusiad ecolegol llawn.
- Cyngor Bro Morgannwg
Hillcrest View, Abertyleri
Arolwg ymlusgiaid
- Cymdeithas Tai Unedig Cymru
2007
Cynllunio a Datblygu
Cyngor i Staff Cynllunio ar y gyfraith ac oblygiadau cynllunio.
- Cyngor Dinas Casnewydd
2006
Ridge Hill to Aconbury Spine
MAmnewid Prif Bibell – Arolwg adar sy’n nythu.
- Laing O'Rourke Ltd
- Dŵr Cymru Welsh Water
2005
Henebion Hanesyddol Cymru
Arolwg Adar sy’n Nythu
- Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru
2003
Ramp Mynediad Gorsaf Reilffordd Trefyclo.
Arolwg Nadroedd Defaid
- Cyngor Sir Powys
Prosiect Pyllau Penlan, Aberhonddu
Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Cyngor Sir Powys
2002
Cefnffordd yr A470, Gwelliannau Erwyd i Lanfair-ym-Muallt
Arolwg Cimwch yr Afon.
- Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru
- Llywodraeth y Cynulliad
2001
Ailadeiladu Pont Llwyncyntefyn
Asesu Effeithiau Amgylcheddol
- Cyngor Sir Powys
|
Gwasanaethau eraill –
sut allwn ni eich helpu chi?
Er gwaethaf ein teitl, nid gyda mamaliaid yn unig fyddwn ni’n gweithio, ac os ydych angen arolwg ecolegol, mae’n siŵr y gallwn eich helpu. O arolwg botanegol i asesiadau o loÿnnod byw a gwyfynod, o arolygon adar magu ac adar sy’n gaeafu i chwilio am ymlusgiaid, mae gan ein staff sylfaen eang o sgiliau sy’n ein galluogi i’ch helpu chi.
Mae nifer o rywogaethau wedi eu diogelu heddiw dan ddeddfau’r Deyrnas Unedig ac Ewrop, ac mae gennym hanes helaeth o arolygu amrywiaeth o rywogaethau neu grwpiau o rywogaethau. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys arolygon ysguboriau o ystlumod a thylluanod neu adar eraill sy’n nythu. Neu bathewod ac adar sy’n nythu mewn cloddiau. Yn wir, daw nifer o’n cleientiaid atom oherwydd ein bod yn gallu arolygu amrywiaeth o rywogaethau ar yr un pryd gan arbed dod â gwahanol arbenigwyr o ystod o gefndiroedd arbenigol.
Rydym yn cynnal arolygon botanegol i’n cleientiaid i gyd, o blanhigion uwch i ffyngau. Rydym hefyd yn fodlon cynnal arolygon gloÿnnod brith y gors a rhywogaethau eraill yn ogystal â chynefinoedd sensitif.
Waeth pa mor fawr yw’r prosiect na pha mor gymhleth ydyw, byddwn yn gallu eich helpu. Gallwn gynnal arolygon o fannau cyfyng gan fod pob un o’n staff wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol ac yn ddeiliaid y tystysgrifau sy’n ofynnol i gyflawni arolygon tanddaearol a safleoedd tebyg. Felly, os ydych angen atebion parthed unrhyw faterion bywyd gwyllt, rhowch alwad i ni.
Gwasanaethau
- Arolwg infertebratau dyfrol
- Arolygon tylluanod gwynion
- Arolygon adar magu
- Arolygon gloÿnnod byw a gwyfynod
- Asesiadau effeithiau amgylcheddol
- Arolygon ffyngau
- Arolygon botanegol cam 1
- Arolygon ymlusgiaid
- Arolygon adar gaeafu
|