Click here for English version.
Mamaliaid Eraill |
Prosiectau Blaenorol2008Gwastadeddau Gwent, CasnewyddArolwg o bresenoldeb llygod y dŵr 2007Tir yn Heol Caerfyrddin, Cross HandsArolwg llygod y dŵr 2004Rhanbarth Coedwig LlanymddyfriArolwg Llygod y Dŵr 2003Rhanbarth Coedwig LlanymddyfriArolwg Llygod y Dŵr 2002Rhanbarth Coedwig LlanymddyfriArolwg Llygod y Dŵr 2001Datblygiad Tai Llanisien a Llys-faenArolwg presenoldeb/absenoldeb Llygod y Dŵr. |
Mamaliaid Eraill - sut allwn ni eich helpu?Yn ogystal â moch daear, ystlumod, pathewod a dyfrgwn, mae gennym ystod eang o brofiad yn arolygu a gweithio gyda mamaliaid eraill. Llygod y dŵr (Arvicola terrestris) yw’r rhywogaeth yr ydym wedi gweithio fwyaf â hi o bosibl, ac yn anffodus mae’r rhywogaeth hon, fel cymaint o famaliaid eraill Prydain, yn lleihau o ran niferoedd ac angen ein cymorth. Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi cynnal nifer o arolygon o sawl rhywogaeth ac os ydynt yn broblem ar eich datblygiad, gallwn helpu gyda mamaliaid a ddiogelir dan y gyfraith. Gallwn hefyd helpu gyda rhywogaethau eraill o famaliaid ac mae’n hecolegwyr wedi gweithio ar brosiectau gwiwerod coch (Sciurus vulgaris), a dulliau o reoli gwiwerod llwyd sy’n bennaf gyfrifol am ddifodiant ein gwiwer goch frodorol. Waeth pa fath o famal sydd dan sylw, mae’n fwy na thebyg y gallwn helpu. O arolygon mamaliaid bychain i gyngor ar famaliaid mawr, a hyd yn oed rhywogaethau egsotig megis baeddod gwyllt ac afancod, os na allwn helpu byddwn yn sicrhau ein bod yn cael gafael ar y cyngor gorau sydd ar gael i chi. Gwasanaethau
|
| Crëwyd y wefan: Mawrth 08 | Diweddarwyd Mai 2010 | Dyluniwyd gan Art Matters |