Prosiectau Blaenorol
2009
Campws Brynbuga
Canolfan weinyddol newydd
Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Coleg Gwent
2008
The Hyde, Ivington
Arolwg amffibiaid
- Hook Mason Ltd
2005
Prosiect gwella mynediad i ysgolion Pyllau Penlan
Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Cyngor Sir Powys
2004
Cefnffordd yr A483 – Llandysilio
Gwelliannau – Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru
- Llywodraeth y Cynulliad
2003
Ramp Mynediad Gorsaf Reilffordd Trefyclo.
Arolwg Nadroedd Defaid
- Cyngor Sir Powys
Prosiect Pyllau Penlan, Aberhonddu
Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Cyngor Sir Powys
2003
Datblygiad tai’r
Bontnewydd-ar-Wy
Arolwg ffagl a phydew maglu madfallod dŵr cribog.
- PAR Homes Ltd
2001
Gwaith Trin Gwastraff Garnswllt
Ailwampio – Arolwg madfall ddŵr gribog.
- Montgomery Watson Harza Ltd
- Dŵr Cymru Welsh Water
|
Madfallod Dŵr Cribog –
sut allwn ni eich helpu?
Un o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd yw’r rhai’n ymwneud â madfallod cribog, y Triturus cristatus. Fel cryn dipyn o’n bywyd gwyllt, roedd y madfallod dŵr cribog yn arfer bod yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig, ond yn anffodus erbyn hyn fe’i ystyrir yn anifail prin sydd mewn perygl – sefyllfa sydd wedi ei hadlewyrchu ledled y rhan fwyaf o Ewrop. O ganlyniad, mae’r rhywogaeth wedi ei diogelu dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Cynefinoedd.
Mae gan y rhywogaeth enw drwg anhaeddiannol am oedi datblygiadau, neu alw am ddarpariaethau lliniaru drud. Fodd bynnag, anaml mae hyn yn wir, ac mae’r wasg yn dda iawn am roi sylw drwg i’r amffibiaid hyn. O’r rhywogaethau o fadfallod ym Mhrydain, dim ond y fadfall gribog sy’n mynnu’r lefel uchel hwn o amddiffyniad – ond mae gan y rhan fwyaf o’n madfallod brodorol rywfaint o amddiffyniad cyfreithiol – felly mae’n bwysig eu harolygu a sefydlu pa rywogaethau sy’n bresennol.
O ystyried yr amddiffyniad cyfreithiol a roddir i fadfallod dŵr cribog, mae’n hanfodol gallu galw ar brofiad blaenorol i asesu presenoldeb y rhywogaeth. Mae gan ein staff drwyddedau llawn i gyflawni pob math o arolygon i’r rhywogaethau ac mae gennym bron i ugain mlynedd o brofiad o asesu safleoedd lle gallai madfallod cribog fod mewn perygl. Felly os ydych angen y gwasanaeth hwn, rhowch alwad i ni a gallwn eich tywys gyda golwg ar y lefel briodol o ymdrech ac amseriad eich arolygon.
Gwasanaethau
- Arolygon amffibiaid
- Trapio â photeli
- Trwyddedau rhywogaeth Ewropeaidd a–ddiogelir
- Asesiadau cynefinoedd
- Rhwydo â llaw
- Cynlluniau lliniaru
- Trapio â pydewau maglu
- Defnyddio tortsh i oleuo pyllau
|