Click here for English version.
![]() Croeso… |
Manylion cyswlltThe Just Mammals Consultancy, Ffôn: (+44) 0845 634 6077 |
…i Safle Just MammalsYmgynghorwyr ecolegol yw Just Mammals sy’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â mamaliaid Prydeinig a rhywogaethau eraill sydd wedi eu diogelu. Fodd bynnag, yn wahanol i rai ymgynghorwyr, rydym hefyd yn cyflawni ein hymchwil gwreiddiol ein hunain. Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â mamaliaid ac mae gennym wybodaeth arbenigol parthed moch daear, ystlumod, pathewod, dyfrgwn a llygod y dŵr. Ond, er gwaethaf ein henw mae gennym hefyd brofiad helaeth o rywogaethau eraill, yn amrywio o fadfallod dŵr cribog a nadroedd defaid i loÿnnod brith y gors. Mae ein cleientiaid yn amrywio o ddatblygwyr bychain i asiantaethau llywodraeth, ac o brosiectau bychain megis trosi ysguboriau hyd at ddatblygiadau ffordd gwerth miliynau o bunnoedd. Rydym wedi ein lleoli ger Aberhonddu yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n lleoliad delfrydol i gyflawni prosiectau yng Nghanolbarth a De Cymru ac yng Ngorllewin Lloegr. Mae pob aelod o’n staff yn ecolegwyr cymwys gyda phrofiad helaeth o gynnal arolygon o rywogaethau a ddiogelir ac maent yn aelodau neu’n gymdeithion o’r Sefydliad Rheolaeth Ecolegol ac Amgylcheddol. Cyflawnir yr holl waith yn unol â chod ymarfer y Sefydliad. Waeth pa wasanaeth ecolegol sydd ei angen arnoch, gallwn ni eich helpu. Mae croeso i chi bori trwy’n tudalennau, ond os na welwch yr hyn yr ydych yn chwilio amdano rhowch alwad i ni. Wedi’r cyfan, rydym yn ‘Ddatryswyr Problemau Naturiol’. Gwasanaethau
|
| Crëwyd y wefan: Mawrth 08 | Diweddarwyd Mai 2010 | Dyluniwyd gan Art Matters |