Click here for English version.

just mammals

Pathewod

Prosiectau Blaenorol

2009

Ffordd Fenter Sirhyw

Monitro lliniaru pathewod – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

2008

Ffordd Fenter Sirhywi

Monitro lliniaru pathewod:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ysgol Gyfun Y Bont-faen

Arolwg o bresenoldeb pathewod:
- Cyngor Bro Morgannwg

2007

Ecoleg Pathewod – Rheolaeth Cwrs Hyfforddi a lliniaru pathewod - Sefydliad Rheolaeth Ecolegol ac Amgylcheddol.

Planhigfa Meadowvale – Arolwg Ffordd Fynediad Newydd o wrych i’w dynnu i lawr i wella llinellau golwg ffordd – Meadowvale Nursery Ltd.

2006

Cefnffordd yr A479 – Ffordd Liniaru Talgarth

Lliniaru pathewod a chroesfannau ffordd
- Hyder Consulting
- Llywodraeth y Cynulliad

Cefnffordd yr A470 – Gwelliannau Erwyd i Lanfair-ym-Muallt

Cyngor lliniaru pathewod
- Cyngor Sir Powys
- Llywodraeth y Cynulliad

2005

Ardal Hyfforddiant Caerwent

Arolwg o bresenoldeb pathewod a chyngor rheoli
- Ystadau Amddiffyn

Cyrsiau Hyfforddiant Ecoleg Pathewod
- English Nature
- Cyngor Sir Caerffili

2004

Coedwigoedd Dyffryn Gwy

Arolwg o bresenoldeb pathewod a chyngor rheoli
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru

2003

Coedwigoedd Dyffryn Gwy

Arolwg o bresenoldeb pathewod a chyngor rheoli
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Cyrsiau Hyfforddiant Ecoleg Pathewod

- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

2002

Coedwigoedd Sir Fynwy

Arolwg o bresenoldeb pathewod a chyngor rheoli
- Cyngor Sir Fynwy

Cefnffordd yr A470 – Gwelliannau Erwyd i Lanfair-ym-Muallt

Arolwg a chyngor lliniaru
- Cyngor Sir Powys
- Llywodraeth y Cynulliad

2001

Cyrsiau Hyfforddiant Ecoleg Pathewod

- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed

Pathewod - sut allwn ni eich helpu?

Yn y Deyrnas Unedig, mae tair rhywogaeth o bathewod. Yn ogystal â’n rhywogaeth frodorol, y pathew cyffredin neu bathew’r cyll (Muscardinus avellanarius), mae rhannau o Loegr hefyd yn gartref i’r pathew tew neu ‘fwytadwy’ a phathew’r ardd. Mae’r tri yn brin ledled Ewrop ac felly wedi eu diogelu’n llawn dan gyfraith.

Er mai cnofilod yw pathewod, ychydig iawn sydd ganddynt yn gyffredin â gwir lygod, gan ddewis byw mewn coedwigoedd a gwrychoedd aeddfed. Gall pathewod fyw’n hir iawn, hyd at bum mlynedd dan amgylchiadau eithriadol. Yn wahanol i lygod, mae gan bathewod flew tu fewn i’w clustiau ac ar eu cynffonau, ac mae hyn yn hanfodol i anifail sydd eisiau cadw gwres, yn arbennig wrth iddynt aeafu. Golyga’r gallu hwn i aeafu yn ystod tywydd garw’r gaeaf bod y pathew cyffredin yn cael ei alw’n un o’r saith cysgadur mewn rhai rhannau o Ewrop, gan eu bod fel petaent yn diflannu’n llwyr yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae niferoedd y pathew cyffredin wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac yn 1981 rhoddwyd amddiffyniad llawn iddynt a hefyd i’r coed a’r gwrychoedd lle maent yn byw dan ddarpariaethau’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Ceir amddiffyniad pellach yn y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Rydym wedi bod yn gweithio i warchod pathewod a’u cynefinoedd ers mwy na 18 mlynedd. Mae gennym brofiad heb ei ail o arolygu pathewod, gan ddefnyddio chwiliadau cnau barfog, tiwbiau nythu a thrapiau i asesu presenoldeb absenoldeb. Gallwn eich cynghori ar fesurau lliniaru pathewod, a waeth pa mor fawr neu fach yw’r prosiect, gall ein gweithredwyr trwyddedig eich helpu gyda golwg ar bathewod.

Gwasanaethau

  • Pob math o arolwg
  • Ceisiadau trwyddedau rhywogaethau Ewropeaidd a ddiogelir
  • Gwasanaethau tystion arbenigol
  • Arolygon cynefinoedd
  • Cyngor rheoli cynefin
  • Cynlluniau lliniaru
  • Prosiectau blychau nythu a monitro
  • Prosiectau Ymchwil
  • Cyrsiau hyfforddiant