Prosiectau Blaenorol
2009
Castell Y Waun – Arolwg o symudiadau’r ystlum trwyn pedol llai i ddynodi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: – Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Blociau Llety i Fyfyrwyr – Arolwg ystlumod a gwaith trwydded Rhywogaethau Ewropeaidd a Ddiogelir: – Prifysgol Morgannwg
2008
Old Place, Llantwit Major –
Arolwg o bresenoldeb ystlumod yn yr Heneb Hynafol Restredig:
- Cyngor Bro Morgannwg
Eglwys Sant Cewydd, Diserth –
Arolwg o bresenoldeb ystlumod:
- Cyngor Plwyfol Eglwys
2007
Cynnig Fferm Wynt Comin Merthyr
Asesu gweithgaredd ystlumod preswyl a mudol:
- Bheara Ltd
Ardal Hyfforddiant Caerwent – Safleoedd Archeolegol
Asesiad o bresenoldeb clwydi ystlumod a chyngor lliniaru yn ystod gwaith sefydlogi
- Landmarc Support Services Ltd
- Ystadau Amddiffyn
2006
Cefnffordd yr A479 –
Ffordd Liniaru Talgarth
Ymfudiad ystlumod trwyn pedol llai a chroesfannau ffordd.
- Hyder Consulting
- Llywodraeth y Cynulliad
Cefnffordd yr A465 – Troi Blaenau’r Cymoedd yn Ddeuol
Defnyddio radio i olrhain symudiadau ystlumod trwyn pedol llai parthed y ffordd newydd.
- Babtie Consulting/Smith Ecology Ltd
- Llywodraeth y Cynulliad
2005
Prosiect Tai Cymunedol Merthyr Tudful
Arolygon presenoldeb ystlumod o eiddo i’w dymchwel.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Prosiect Monitro Ystlum Trwyn Pedol Llai Dyffryn Gwy
Astudiaeth o dueddiadau chwilota am fwyd ystlumod trwyn pedol llai yn Nyffryn Gwy isaf.
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
2004
Prosiectau Twneli Rheilffordd Merthyr
Arolwg o bresenoldeb ystlumod sy’n gaeafu mewn dau hen dwnnel rheilffordd.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Astudiaeth Ystlumod Trwyn Pedol Llai Dyffryn Wysg
Astudiaeth o symudiadau ystlumod trwyn pedol llai ac effaith coed torlannol ar ymddygiad casglu porthiant.
- Smith Ecology Ltd
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
2003
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig y Ciliau
Defnyddio radio i olrhain ystlumod trwyn pedol llai o safleoedd gaeafu i feithrinfeydd.
- Smith Ecology Ltd
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Plas ty Aberglasney
Arolwg ystlumod mewn adeilad hanesyddol yn cynnwys cynllun lliniaru a chais datblygu trwydded.
- Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasney
2002
SoDdGA ac ACA Ciliau
Astudiaeth o linell hedfan ac ymddygiad chwilota am fwyd yn y safle pwysig hwn.
- Smith Ecology Ltd
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Canolfan Ddysgu Gydol Oes Garth Olwg
Arolygon ystlumod, mesurau lliniaru a gwasanaeth tystion arbennig mewn ymholiad cyhoeddus.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Jarvis Construction Ltd
|
Ystlumod – sut allwn ni eich helpu?
Ystlumod yw’r unig wir famaliaid sy’n gallu hedfan, ac ym Mhrydain mae yna o leiaf 17 o rywogaethau, pob un ohonynt wedi’u diogelu’n llawn. Mae pob ystlum ym Mhrydain yn bryfysol, sy’n golygu eu bod yn bwyta pryfed yn unig. Yn gyffredinol byddant yn dal eu hysglyfaeth wrth hedfan. Mae ystlumod yn gwneud gwaith da iawn yn gyffredinol, a gall corystlum cyffredin fwyta hyd at 3,500 o bryfed bach bob nos yn ddidrafferth. Maent yn canfod pryfed gan ddefnyddio’u galluoedd ‘atsain leoli’, yn debyg i radar ar awyren ymladd. Er bod ganddynt olwg da hefyd, yr atsain leoli sy’n eu galluogi i weld mewn tywyllwch llwyr.
Yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, mae niferoedd ystlumod wedi lleihau’n drychinebus ac mae sawl rhywogaeth ar fin diflannu erbyn heddiw. Ers 1981, mae holl ystlumod Prydain a’u mannau gorffwys (clwydi) wedi eu diogelu dan ddarpariaethau’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Ychwanegwyd at yr amddiffyniad hwn dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994 ac yn fwy diweddar yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Rydym wedi bod yn gweithio ag ystlumod ers bron i 25 mlynedd, ac mae gennym brofiad heb ei ail yn eu gwarchod. Mae’r ecolegwyr sydd gennym wedi eu trwyddedu’n llawn i weithio gyda phob rhywogaeth o ystlum yn y Deyrnas Unedig ac wedi eu hyfforddi i weithio mewn mannau cyfyng os yw’r client angen hyn.
Gwasanaethau
- Arolygon ysguboriau
- Arolygon adeiladau a choed
- Arolygon mannau cyfyng
- Ceisiadau trwydded rhywogaethau Ewropeaidd a ddiogelir
- Cynlluniau lliniaru
- Prosiectau ymchwil yn cynnwys olrhain radio a dynodi rhywogaethau drwy eu modrwyo
- Prosiectau Ymchwil
- Cyrsiau hyfforddiant
|